Hanes Y Twnnel

Adeiladwyd Twnnel y Rhondda gan Reilffordd Rhondda a Bae Abertawe. Dechreuwyd ar y gwaith ym Mehefin 1885. Y peiriannydd oedd Sydney William Yockney, mab Samuel William Yockney, a weithiodd i Isambard Kingdom Brunel ar dwnneli eraill.

Rhoddwyd y contract i gwmni William Jones o Gastell Nedd a William Sutcliffe Marsh yn beirianydd preswyl. Dechreuwyd ar y gwaith o dorri’r tir ar ochr Blaengwynfi [ Afan] ar 30 Mai 1885. Dechreuwyd 5 mis yn hwyrach ar ochr Blaencwm [ Rhondda]. Disgwylid I’r gwaith gymryd tair mlynedd. Dim ond un siafft awyru oedd ym Mlaengwynfi. Roedd yn rhy ddwfn i ddefnyddio’r dull Fictorianaidd o dyllu cyfres o siafftiau ar hyd ll inell y twnnel. Yr arfer oedd i’r “navies” weithio tuag at ei gilydd o bob siafft. Mae’n 275m [900”] o ddyfnder mewn ambell ardal.

Llwyddwyd ar y cychwyn i wneud cynnydd ar raddfa 240 llath y mis gan ddefnyddio pŵer driliau aer cywasgedig. Arafodd y gwaith erbyn 1887 i 70 llath y mis. Roedd hyn yn bennaf oherwydd y tyllu drwy dywodfaen pennant caled a phrinder llafur. Gohiriwyd y dyddiad gorffen i 31 Gorffennaf 1889. Cyfarfu dau ben y twnnel ar 16 Mawrth 1889 a’r aliniad bron yn berffaith. Yn sgil yr oedi daeth collodd William Jones ei gontract a rhoddwyd cytundeb newydd ym Medi 1889 i gwmni Lucas and Aird o Lundain. Daeth y contractwr newydd â 1600 gweithiwr i’r safle. Golygodd hyn fod 300 o dai wedi eu hadeiladu ar ochr y Rhondda o’r twnnel.

iMAGE: 1950s: Train leaving the tunnel at Blaencwm heading for Blaenrhondda Railway station.

Above: Train leaving the tunnel at Blaencwm heading for Blaenrhondda Railway station during the 1950s

Ar 2 Mai 1890 arolygwyd y twnnel gan y Cyrnol Rich o’r Bwrdd Masnach. Darganfyddodd na chafodd y rhan ganol ei leinio â charreg. Felly gwrthododd i deithwyr ddefnyddio’r twnnel tan i waith leinio 759 llath o hyd gael ei gwblhau. Gorffennwyd y gwaith mewn llai na 54 diwrnod. Rhoddwyd leiniad o friciau uwchben y waliau bwa concrit. Agorwyd y twnnel ar 2 Gorffennaf 1890 heb unrhyw seremoni.

Cloddiwyd am lo yn y blynyddoedd cynnar o wythiennau glo uwchben ac o dan y twnnel, yn arbennig tuag at ben Blaencwm. Achosodd hyn i’r pen yma suddo 40cm gan ryddhau cerrig oedd yn leinio to y twnnel. Plygwyd y cledrau yn fwâu i gefnogi yr estyll pren oedd yn dal y cerrig llac.

Dangosodd arolwg 1967 fod llurguniad y to mewn ffawt daearegol. Arweiniodd hyn at gau y twnnel dros dro ar 26 Chwefror 1968. Cyhoeddodd y Weinyddiaeth Drafnidiaeth ym mis Rhagfyr 1970 fod gwasanaethau teithwyr yn dod i ben yn sgil y gost ormodol, sef £90,000 i drwsio’r twnnel. Erbyn hyn daeth cloddio am lo i ben ym mhen uchaf y Rhondda Fawr. Ar ôl degawd heb ddefnydd fe gaewyd y twnnel gan adfer y tirwedd o’i amgylch.

Yn 2018 cynhaliodd Balfour Beatty Rail arolwg manwl. Adroddwyd fod rhan fwyaf o’r twnnel mewn cyflwr ardderchog. Byddai angen atgyweiriadau yn bennaf o gwmpas agoriadau’r twnnel. Cydnabu Sefydliad y Peirianwyr Sifil fod y twnnel o bwysigrwydd hanesyddol. Y dystiolaeth oedd cywirdeb arolwg y syrfewyr a’r defnydd cynnar o goncrit yn y twnnel. Hyd y twnnel yw 3443 llath (3148 metr) sef y trydydd twnnel rheilffordd hiraf yng Nghymru a’r 11eg hiraf yn y Deyrnas Unedig.

Lleolir y twnnel dan ddaear ym mhen uchaf y Rhondda Fawr ym mhentref Blaencwm ac ar ben Cwm Afan ym mhentref Blaengwynfi.

Above: A clip of a train going into the tunnel.